Dilyn Taith Afon
Aeth dosbarth Miss Williams i Ganolfan Dreftadaeth Kate Roberts yn Rhosgadfan i ddilyn taith afon. Buom yn mesur lled a dyfnder yr afon mewn gwahanol leoliadau ac yn nodi y bywyd natur amrywiol oedd yn y mannau rhain. Yna, aethom yn ol i'r ganolfan i gwblhau gweithgareddau ychwanegol am afonydd. I orffen ein ymweliad, cawsom weld hen gartref Kate Roberts. Roedd y tywydd yn fendigedig a roedd pawb wrth eu bodd pan clywsom y gog yn canu.















Gweithgareddau datrys problemau








